Ras Gyfnewid am Fywyd Gwynedd a Môn
Cymryd Rhan

Cyfnewid Cancr am Fywyd 2010 Cancer Research UK

English


Mae cyfnewid Cancr am fywyd yn gyfle gwych ichi ymuno â phobl i helpu curo Cancr. Yr unig beth ’da chi angen yw creu tîm a chychwyn codi arian. Mae pawb yn medru cymryd rhan, heb boeni am eu hoed na’u lefelau ffitrwydd.
Digwyddiad o hwyl i’r teulu oll- Croeso i bawb

 

Mae ffrindiau, teulu neu gydweithwyr sydd eisio gwneud gwahaniaeth yn gyfuniad perffaith i wneud tîm Cyfnewid Cancr am Fywyd. Cyn y digwyddiad rydym yn gofyn i’r timau godi gymaint o arian ag y gallant i Cancer Research UK.

Sut i gofrestru tîm
I gofrestru fel capten neu i gofrestru tîm ffoniwch 0871 6412602 (Dydd Llun- Dydd Gwener, 9yb-5yh).

Manylion Cyswllt Pwyllgor (ymholiadau yn unig – edrychwch uchod am gyswllt ymuno)

Katherine Owen
katherine.owen@btconnect.com
01286 830178
07816 226862

Jenny Jones
derekandjenny@btinternet.com
01286 830409
07747 394862

Carol a Trefor Hughes-Morris
carolhm@btinternet.com
01248 714784
07747 807111

O safbwynt Cyfnewid Cancr am Fywyd, mae pawb sydd wedi clywed y geiriau “ mae gennych chi gancr” yn cael eu hystyried fel goroeswr. Os ydych yn oroeswr fe fydd yn anrhydedd i ni eich croesawu i’n digwyddiad. Fel gwestai anrhydeddus Cyfnewid Cancr am Fywyd mae goroeswyr cancr o bob oed yn cael eu gwahodd i gerdded y gylchdaith gyntaf.

Mae croeso i oroeswyr hefyd fynychu ar y dydd i brofi’r digwyddiad yn eu ffordd eu hunain. Ar ôl cofrestru, cewch becyn croeso yn cynnwys bathodyn a chrys-T.

Sut i gofrestru fel goroeswr
I gofrestru fel goroeswr ar-lein cliciwch ar y botwm islaw. I gofrestru fel goroeswyr dros y ffôn, ffoniwch 0871 6412602 (Dydd Llun - Dydd Gwener, 9yb-5yh).

Manylion Cyswllt Pwyllgor (ymholiadau yn unig – edrychwch uchod am gyswllt ymuno)
Llinos Thomas
01248 750054

Mae seremoni Cannwyll Gobaith yn rhan holl bwysig o’r digwyddiad. Fel mae’n noswylio, bydd y canhwyllau’n cael eu cynnau a chofiwn y rheini sydd wedi cael profiad o gancr. Gall y gannwyll fod yn gofeb i ddathlu eu bywyd a gallwch gyfrannu tuag at Cancer Research UK.

Gall £10 brynu 300 sleid gwydr i archwilio celloedd a samplau o diwmor o dan ficrosgop.
Gall £20 brynu côt labordy a sbectol ddiogelwch i wyddonydd. Mae’r rhain yn gwarchod rhag cemegau perygl a rhag llygru arbrofion.
Gall £62.50 dalu am nyrs wybodaeth am hanner dydd. Mae ein nyrsys yn rhoi atebion cyfrinachol i unrhyw un sy’n pryderu am gancr.

Sut i gyflwyno Cannwyll Gobaith
I gyflwyno Cannwyll Gobaith ar-lein cliciwch ar y botwm isod.

Os oes llai na phythefnos i fynd cyn y digwyddiad, cysylltwch â’r pwyllgor yn gyntaf.
Manylion cysylltu ar gyfer cyflwyno Cannwyll Gobaith
Llinos Thomas
01248 750054

Heb wirfoddolwyr fe fyddai Cyfnewid Cancr am Fywyd yn methu. Mae pob aelod o’r pwyllgor yn wirfoddolwyr ac rydym yn dibynnu ar eu hegni i wneud y digwyddiad yn llwyddiant. Os hoffech chi helpu am ychydig oriau ar y dydd neu wneud mwy cyn y digwyddiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Sut i Wirfoddoli
Cysylltwch â Chadeirydd y Pwyllgor gan ddefnyddio'r manylion isod i drafod sut y gallwch helpu.


Manylion Cysylltu
John Wynn Jones
131 Ffordd Penchwintan,
Bangor,
Gwynedd.
LL57 2YG
E-bost: johnwynnjones@hotmail.co.uk

 

Edrychwn ymlaen at eich gweld yn cymryd rhan yn ein Digwyddiad Cyfnewid Cancr am Fywyd!

| Mwy