![]() |
Ras Gyfnewid am Fywyd Gwynedd a Môn |
English |
Digwyddiad codi arian unigryw yw Cyfnewid Cancr am Fywyd. Mae’n rhoi cyfle i’r gymuned ddathlu bywyd y rheini sydd wedi’u heffeithio gan gancr ac i godi arian i godi gobaith yn y dyfodol.
Mae Cyfnewid Cancr am fywyd yn dod â chi
a’ch tref ynghyd i geisio curo Cancr Cyn y digwyddiad mae timau yn hel arian
yn eu cymunedau lleol er mwyn cefnogi gwaith
“Cancer Research UK”. Yna, daw pawb at ei gilydd
i fod yn rhan o ddigwyddiad ysgogol dros nos, i lawenhau a chofio.
Rhywbeth y gall y gymuned i gyd fod yn rhan ohono. Pwyslais y digwyddiad yw hwyl i’r teulu oll, heb boeni am eich oed
na lefelau ffitrwydd - Mae croeso i bawb!
Yn y digwyddiad mae pawb yn mynd lawr i’w trac rhedeg lleol
(Treborth yn ein hachos ni), gyda phawb yn gwneud un lap o’r trac ar y tro.
Mae bob tîm yn sicrhau bod o leiaf un aelod o’r tîm ar y trac trwy’r
amser, tra bo pawb arall yn cael parti.
Bydd yna awyrgylch hwyliog, y gall y teulu oll ei fwynhau, yn y digwyddiad.
Bydd ardal wersylla, cerddoriaeth, stondinau ac adloniant yn rhan bwysig ohono
a bydd nifer o’r timau yn gwersylla dros nos.
Mae digwyddiad Cyfnewid Cancr am fywyd yn para rhwng 12-24 awr (20 yn ein hachos ni)
Mae pob digwyddiad Cyfnewid Cancr am Fywyd yn cynnwys cylchdaith i oroeswyr a gwasanaeth teimladwy cannwyll o obaith.


